Archif Newyddion

Cyfres Darlithoedd y Canmlwyddiant

Edrych yn ôl ac edrych ymlaen

Rhan Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol yn Stori Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu eu canmlwyddiant yn 2007. Sefydlwyd y ddau i ddatgan hyder y genedl yn ystod oes aur cyfoeth mwynau Cymru, sef y cyfnod Edwardaidd.

Y Sefydliad Materion Cymreig sy’n trefnu’r gyfres bwysig yma o ddarlithoedd am ddim i’r cyhoedd, ac fe’u cynhelir yn y ddau sefydliad. Byddan nhw’n edrych ar y ffordd y mae chwedlau, atgofion a dyfodol y ddau yn uno ac ar eu rôl wrth ddatblygu syniadau am hunaniaeth Cymru yn y 21ain ganrif.

Dechreuodd y gyfres yn Ionawr 2006, a chaiff y darlithoedd eu tynnu ynghyd mewn llyfr a gaiff ei lansio wrth agor cynhadledd ryngwladol fawr yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2007.

Dadlwythwch raglen lawn yma (fformat pdf maint 75.69 KB)