Archif Newyddion

SANTES DWYNWEN – NEGES LENYDDOL I GARIADON

Calon  Calon  Calon  Calon  Calon

Bydd Gwen Lasarus, Hyrwyddwraig Llenyddiaeth Gwynedd, yn gweithredu fel llatai llenyddol i ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr.

Bydd modd i drigolion rhamantus Gwynedd a thu hwnt anfon e–garden at gariadon, neu ddarpar-gariadon, wedi eu dylunio’n arbennig gan yr artist Catrin Meirion gydag englyn a ysgrifenwyd ar gyfer yr achlysur gan y Prifardd Myrddin ap Dafydd. Dim ond 75 cerdyn sydd ar gael, felly y cyntaf i’r felin.

Cysylltwch â Gwen ar 01286 679465 neu gwenlasarus@gwynedd.gov.uk  i drefnu’ch carden. Cynllun ar y cyd rhwng yr Academi a Chyngor Gwynedd yw Cynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd.