Archif Newyddion

Preswyliad Barddonol 19 – 24 Mawrth 2007

Gwyneth Glyn      Gillian Clarke

Ym mis Mawrth, bydd Galeri Caernarfon a Chanolfan Mileniwm Cymru yn dechrau cynllun gefeillio gyda chefnogaeth yr Academi. Bydd Gillian Clarke, a gafodd ei hapwyntio yn Fardd y Brifddinas yn 2005, yn teithio i Arfon, tra bydd Gwyneth Glyn, Bardd Plant Cymru 2006-07,  yn treulio’r wythnos ym Mae Caerdydd.

Bydd y beirdd yn cynnal gweithdai ac yn perfformio’u gwaith, yn ogystal â pharatoi gwaith newydd a fydd yn rhoi golwg gwahanol ar y ddwy ganolfan. 

Bydd amserlen lawn o weithgareddau Gwyneth a Gillian yn ymddangos ar wefan yr Academi yn fuan. Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r cynllun, cysylltwch a’r Academi:  029 2047 22 66 neu post@academi.org