Archif Newyddion
SWYDDOG GWEINYDDOL YR ACADEMI

Mae’r Academi yn chwilio am berson brwdfrydig, dymunol a threfnus i weithio yn y brif swyddfa yng Nghaerdydd.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r cymwysterau canlynol:
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog yn Gymraeg a Saesneg
• Y gallu i ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol e.e. Word, Excel a.y.y.b.
• Y gallu i weithio’n drefnus ac yn hyblyg
Cynigir hyfforddiant lle bo’r angen.
Cyflog: £14,000 – £15,500
Lleoliad: Caerdydd
Dyddiad cau: 2 Chwefror 2007
Cyfweliadau: 9 Chwefror 2007
Anfonwch CV a llythyr cais at:
Academi
Prif Weithredwr Peter Finch, Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266 ffacs: 029 2049 2930



