Archif Newyddion
Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2007

Bu 2006 yn flwyddyn dda i Rhys Evans, awdur y cofiant Gwynfor: Rhag Pob Brad a Robert Minhinnick, awdur To Babel and Back – ill dau £10,000 yn gyfoethocach wedi i’w cyfrolau gipio gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2006.
Os nad ydych chi wedi darllen cyfrolau buddugol 2006 eto, brysiwch gan fod gwobr 2007 ar fin cael ei lansio.
Bydd y cyfan yn dechrau ar 2 Mawrth yn Senedd, Caerdydd gyda’r Academi yn lansio gwobr 2007 fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr. Datgelir pa 10 cyfrol Gymraeg a 10 cyfrol Saesneg eu hiaith sydd wedi cyrraedd Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2007.
Ac yna ar 28 Mai, yng Ng?yl Y Gelli, bydd y gystadleuaeth yn poethi wrth i’r Academi gyhoeddi’r Rhestr Fer o dair cyfrol ymhob iaith.
Ac yna’r awr fawr - Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2007 a gynehlir eleni ar 9 Gorffennaf yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd. Mewn noson fawreddog fe gyhoeddir pa ddwy gyfrol (un yn y Gymraeg ac un Saesneg) sydd yn haeddu teitl Llyfr y Flwyddyn 2007 yn nhyb y beirniaid.
Ond pwy yw’r beirniaid druain sydd yn gorfod dod i’r fath benderfyniad?
Ar y panel Cymraeg mae John Rowlands, Elinor Jones a Gwion Hallam a’r beirniaid ar y panel llyfrau Saesneg eu hiaith yw Katie Gramich, Patrick McGuinness a Carolyn Hitt. Ceir rhagor o wybodaeth am y beirniaid ar wefan yr Academi.
Am ragor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn 2007 cysylltwch â’r Academi:
029 2047 2266 / post@academi.org
www.academi.org



