Archif Newyddion

CANU CAETH: AFFRO–AMERICANIAID A’R GWLEDYDD CELTAIDD

Taflen Paul Robeson

Cynhadledd Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe
 Ddydd Mercher 28 – Dydd Gwener 30 Mawrth 2007

Bwriad y gynhadledd hon yw mynd i’r afael â rhai o agweddau trafferthus hunaniaethau Affro Americanaidd a Cheltaidd. Bwriedir sylwi ar gyfnodau o gydberthnasu, ac ar enghreifftiau o’r traddodiadau diwylliannol hyn yn cynganeddu, yn gwrthwynebu ei gilydd ac yn cael ei hudo y naill gan y lall. 

Er mai Saesneg fydd iaith y gynhadledd yn bennaf, cynhelir ambell sesiwn yn y Gymareg hefyd. Bydd panel yn olrhain dylanwad Affro- Americaniaid ar Gymru gyda Bill Jones a E. Wyn James, Prifysgol Caerdydd a Jerry Hunter, Prifysgol Cymru, Bangor, a phanel ar ddylanwadau Affro-Americanaidd ar lenyddiaeth Cymraeg gyda Gareth Miles, Harri Pritchard Jones a Menna Elfyn.

Am ragor o fanylion cliciwch yma.

Manylion a ffurflen gofrestru ar y wefan yma.