Archif Newyddion
G?yl Llên y Lli
19 – 21 Ebrill
Ers blynyddoedd bellach, mae’r ?yl hon wedi bod yn un o’r prif ddigwyddiadau llenyddol yng Nghymru, gydag enwogion megis Will Self ac Howard Marks wedi perfformio yma yn y gorffennol. Eleni, mae’r rhaglen yn llawn unwaith eto, gyda beirdd o Gatalwnia’n ymweld â Chymru, lawns Taliesin newydd sbon a llawer mwy.
Yr achlysur mwyaf cyffrous yn yr ?yl eleni fydd noson yng nghwmni Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru, ac Andrew Motion, y Poet Laureate. Arwyddocâd hunaniaeth yn rhinwedd swyddi’r naill a’r llall fel beirdd cenedlaethol fydd prif bwnc y noson, a dyma’r tro cyntaf i ddau o brif feirdd Cymru a Lloegr gwrdd ar lwyfan cyhoeddus.
Fel ail rhan o’r prosiect cyfnewid a ddechreuwyd ym Marcelona yn 2005, bydd pedwar o feirdd blaenllaw Catalwnia yn perfformio ochr yn ochr â Meirion MacIntyre Huws, Alan Llwyd, Mererid Puw Davies a John Fitzgerald. I’r rhai sydd am ddatblygu eu sgiliau cyfieithu a chyfrannu at gyfieithiadau newydd, cewch gyfle yn y gweithdy cyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Gatalaneg yng Nghanolfan Glyn Jones yn nghwmni’r beirdd uchod. Bydd hyn i gyd yn digwydd ar ddiwrnod nawddsant Catalwnia, La Diada de Sant Jordi, neu Dydd G?yl George.
Bydd gwaith newydd a chyffrous yn rhan o’r ddau lansiad yn ystod yr ?yl hefyd. Ceir noson i ddathlu cyfrol y Gwanwyn o Taliesin, prif gylchgrawn llenyddol Cymru yng nghwmni’r golygyddion a rhai o’r cyfranwyr, a bydd trafodaeth gydag awdur a chyfiethydd Under the Dust (Parthian), nofel gan Jordi Coca, un o lenorion ffuglen mwya’ Catalwnia.
Bydd noson o drafodaeth yng nghwmni rhai o’r awduron sydd wedi cyrraedd Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn yn gyfle i fod yn rhan o fwrlwm y gystadleuaeth flynyddol hon ac i benderfynu pwy, yn eich barn chi, sy’n haeddu’r wobr o £10,000.
Ewch i wefan yr Academi am ragor o wybodaeth.



