Archif Newyddion
Dafydd ap Gwilym ar y we

dafyddapgwilym.net
Cynhelir cynhadledd ym Mhrifysgol Abertawe ar 4–5 Ebrill 2007 i ddathlu digwyddiad o bwys mawr yn hanes astudiaethau’r Gymraeg, sef lansio golygiad newydd o farddoniaeth Dafydd ap Gwilym ar-lein.
Mae’r golygiad yn ffrwyth prosiect ymchwil rhyngadrannol a ariannwyd gan yr AHRC dros bedair blynedd. Am ragor o wybodaeth am y golygiad a¹r gynhadledd, gan gynnwys cyngerdd lle perfformir rhai o’r cerddi i gyfeiliant telyn am y tro cyntaf, ewch i’r wefan yma.



