Archif Newyddion
Cystadleuaeth Academi/Lingo Newydd
Dyddiad Cau: 1 Mawrth 2007

Mae’r Academi a’r cylchgrawn i ddysgwyr, Lingo Newydd wedi lansio Cystadleuaeth Academi / Lingo Newydd i ddysgwyr ysgrifennu stori fer yn y Gymraeg. Felly ewch ati i roi eich syniadau creadigol ar bapur am y cyfle i ennill. Gofynnir i chi ysgrifennu stori fer yn Gymraeg ac mae’n agored i ddysgwyr o bob safon a phrofiad. Cewch gyflwyno cynifer o straeon ag y dymunwch, ac nid oes ffi cystadlu.
Am ragor o fanylion cliciwch yma.



