Archif Newyddion
Cynhadledd Llenyddiaeth mewn Theori

Dydd Sadwrn 24 Mawrth, 10.30am
Theatr Tucker, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan
Diwrnod o drafodaeth ar theoriau a themau llenyddiaeth fydd yn cyffwrdd ar bynciau megis y Cynfeirdd, Taliesin a gwrywdod yw bwriad cynhadledd Llenyddiaeth mewn Theori ym Mawrth. Dyma’r cyfranwyr:
Dr Barry Lewis – Genre a Dieithrwch yn y Cynfeirdd: Achos "Claf Abercuog"
Dr Richard Glyn Roberts - Traddodiad Taliesin a Chyfaredd Platon
Y Parch. Wilbur Lloyd Roberts - Y Mudiad Heddychiaeth
Dr Elisa Moras - Gwrywdod, Gwroldeb a Gwrhydri yn y Canu Cynnar
Y tâl cofrestru (sydd yn cynnwys cinio a the) yw £12 yn unig.
Mae rhifyn cyntaf Llenyddiaeth mewn Theori newydd ymddangos o’r wasg ac ar gael am £10 i unigolion neu £25 i sefydliadau, yn cynnwys cludiad.
Am ragor o wybodaeth am y gynhadledd a’r cofnodolyn cysylltwch â
Linda Jones, Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion. SA48 7ED
linda.jones@lamp.ac.uk / 01570 424754



