Archif Newyddion
CANU CAETH: AFFRO–AMERICANIAID A’R GWLEDYDD CELTAIDD

Cynhadledd Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe
Ddydd Mercher 28ain – Dydd Gwener 30ain Mawrth 2007.
Yn ei gyflwyniad i argraffiad degfed pen-blwydd ar hugain ei nofel arloesol Invisible Man, disgrifiodd Ralph Ellison gyfnod llunio ei nofel gan ddwyn i gof iddo gyhoeddi stori o’r enw ‘In a Strange Country’: ‘in which a young African American seaman, ashore in Swansea, South Wales, was forced to grapple with the troublesome “American” aspects of his identity.’
Bwriad y gynhadledd hon – a gynhelir yn ‘strange country’ Ellison ac yn y dref lle bu ef yn gwasanaethu yn ystod yr Ail Ryfel Byd – yw mynd i’r afael â rhai o agweddau trafferthus hunaniaethau Affro Americanaidd a Cheltaidd. Bwriedir sylwi ar gyfnodau o gydberthnasu, ac ar enghreifftiau o’r traddodiadau diwylliannol hyn yn cynganeddu, yn gwrthwynebu ei gilydd ac yn cael ei hudo y naill gan y lall. Y mae’r syniad o hunaniaeth ‘Geltaidd’ neu ‘Affro Americanaidd’ yn gysyniad dadleugar ynddo’i hun, felly holi a stilio y mae’r gynhadledd am wneud, yn hytrach na phennu hunaniaethau penodol. Y nod yw annog dulliau o astudio’r wedd ’drawsatlantig’ ar brofiadau’r Cymry a’r Affro-Americaniaid, gwedd a anwybyddir yn llwyr yn aml pan roddir y sylw i’r safbwynt ‘Prydeinig’ neu ‘Americanaidd’ yn unig.
Y Prif Siaradwyr fydd:
Yr Athro John F. Callahan, Coleg Lewis a Clark, Oregon, UDA
Dr. Glenn Jordan, Prifysgol Morgannwg, Cymru
Yr Athro Werner Sollors, Prifysgol Harvard, Massachusetts, UDA.
Yr Athro Jeffrey C. Stewart, Prifysgol George Mason, Virginia, UDA.
Er yn Saesneg bydd y gynhadledd yn bennaf, mae yna hefyd banelu yn y Gymareg. Bydd panel yn olrhain dylanwad Affro- Americaniaid ar Gymru gyda Bill Jones a E. Wyn James o Brifysgol Caerdydd a Jerry Hunter o Brifysgol Cymru, Bangor, a phanel ar ddylanwadau Affro-Americanaidd ar lenyddiaeth Cymraeg gyda Gareth Miles, Harri Pritchard Jones a Menna Elfyn.
Cofrestrwch erbyn 2 Chwefror 2007 am bris rhatach. Manylion a ffurflen gofrestru ar y wefan yma.




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008
Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.