Archif Newyddion

Cyhoeddi enillydd Cystadleuaeth Stori Fer Taliesin 2006

Taleisin 129 – Rhifyn Gaeaf 2007

Mae’r rhifyn diweddaraf o Taliesin, cylchgrawn llenyddol yr Academi, bellach wedi’i gyhoeddi. Mae Taliesin 129 - Rhifyn y Gaeaf yn cynnwys cyfraniadau gan John Rowlands, M Wynn Thomas, Catrin Dafydd, Jason Walford Davies a Gwyneth Glyn ymhlith eraill.

Annes GlynnYn ogystal, cyhoeddir rhwng cloriau’r rhifyn hwn mai’r Prif Lenor Annes Glynn yw enillydd Cystadleuaeth Stori Fer Taliesin 2006. Dyfarnodd y beirniad John Rowlands, mai Sonia Edwards oedd yn mynd â’r ail wobr gyda Mary Annes Payne yn drydydd. Llongyfarchiadau mawr i’r dair ohonynt, sydd yn derbyn gwerth £1,000 yn wobrau diolch i Gr?p Boomerang Cyf. Mynnwch gopi o’r rhifyn hwn o Taliesin er mwyn darllen y stori fuddugol ynghyd â beirniadaeth John Rowlands.

Am ragor o fanylion, neu i danysgrifio, cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 neu post@academi.org

Ewch i wefan Taliesin yma.

Cyhoeddir Taliesin gyda nawdd Cyngor Llyfrau Cymru.