Archif Newyddion
Cymru a Chatalwnia – Lleisiau Paralel / Veus Paral.leles

Dydd Sadwrn 21 Ebrill
Glanfa, Canolfan Mileniwm Cymru - 2.30 pm
Mynediad am Ddim
Yn dilyn y llwyddiant a gafodd beirdd Cymraeg ym Marcelona yn 2005, dyma ail ran y prosiect gyda’r Institut Ramon Llull. Dewch i ddathlu diwrnod nawddsant Catalwnia, La Diada de Sant Jordi, gyda pherfformiad gwefreiddiol o farddoniaeth Cymraeg a Chatalan.
Y beirdd Catalan fydd Albert Mestres, Francesc Parcerisas a Júlia Zabala; a’r beirdd Cymraeg fydd Alan Llwyd a John Fitzgerald.



