Archif Newyddion

Gweithdy Cyfieithu Cymraeg a Chatalan

Cymru     Catalonia

Dydd Sadwrn 21 Ebrill
Canolfan Glyn Jones, Canolfan Mileniwm Cymru – 9.30 am
£4 / £3

Dwy wlad yn erbyn ei gilydd fydd hi heno ond bore yfory cyd–dynnu a chydweithio fydd Cymru a Chatalonia. 

Bydd beirdd a chyfieithwyr proffesiynol yn dod at ei gilydd i geisio cyfieithu dwy gerdd mewn tair awr. Y naill o’r Gymraeg i’r Gatalan, ar llall o’r Gatalan i’r Gymraeg. 

A hoffech chi gyfrannu at lenyddiaeth newydd?  Mae croeso i gyfieithwyr amatur a phroffesiynol ymuno â’r gweithdy hwn.