Archif Newyddion

Cymru v Lloegr

   Cymru     Lloegr 

Nos Wener 20 Ebrill
Gwyn Thomas ac Andrew Motion
Ystafell Seligman, Canolfan Mileniwm Cymru – 7.30 pm
£6 / £4.50

Wrth gwrs, pan ddaw hi i gêm o rygbi rydan ni oll yn gwybod ble rydym yn sefyll, ond tybed beth fydd ein hanes ni heno wedi trafodaeth danbaid rhwng dau o brif feirdd y gwledydd hynny? 

Ymunwch â Gwyneth Lewis wrth iddi lywio trafodaeth unigryw rhwng Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru ac Andrew Motion, y Poet Laureate.

Cymru yn erbyn Lloegr, Bardd Cenedlaethol yn erbyn y Poet Laureate. Cymdogion cytûn, yntai gelynion hyd y diwedd?

Sicrhewch nad ydych chi ar ei cholled.  Dewch yn llu.