Archif Newyddion

Nerth y Llais – cynllun cyfnewid Cymru ag Affrica

Y Ddraig Goch     De Affrica

Cyhoeddir cynllun newydd cyffrous a fydd yn rhoi cyfle i rai o fyfyrwyr ysgol Cymru gystadlu gyda chyfoedion yn Ne Affrica, Botswana, Mauritius, Mozambique, Zambia a Zimbabwe.

Bydd cystadleuaeth Power of the Voice yn galluogi pobl ifainc 14+ i gael eu mentora gan feirdd, chwedleuwyr a rapwyr er mwyn cynrychioli’u hysgol mewn cystadleuaeth farddoniaeth a rap a drefnir gan y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Cymru Dramor. Gwahoddir cynrychiolwyr o’r holl wledydd i berfformio gydag artistiaid rhyngwladol yng Nguyl Power of the Voice yn neheudir Affrica ym mis Mai 2008.

Gall yr Academi gynnig cyfle i’r ysgolion llwyddiannus wahodd bardd neu rapiwr i weithio yn yr ysgol am wythnos breswyl er mwyn paratoi grup o bobl ifainc i gynrychioli Cymru a pherfformio yn yr uyl. Cynhelir yr wythnos breswyl yn ystod tymor yr hydref 2007. Celfyddydau Cymru Dramor sy’n noddi’r ymweliadau ag Affrica yn 2008.

Os oes diddordeb gan eich ysgol i roi cynnig am y cynllun, anfonwch datganiad byr at yr Aademi yn nodi sut y byddai o fantais i’ch ysgol gymryd rhan mewn cynllun o’r math. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich datganiadau yw diwedd Mawrth 2007.  Croesawir ceisiadau yn y ddwy iaith:

Academi, Power of the Voice, Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ