Archif Newyddion
Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno

Cysgod y Cryman
Addasiad Llwyfan gan Sion Eirian
Addasiad llwyfan gan Sion Eirian o’r nofel epig gan Islwyn Ffowc Elis am y gwrthdaro oesol rhwng dwy genhedlaeth a dau fyd digyfnewid.
Dyma chwip o stori dda, ar gynfas mawr a chydag oriel o gymeriadau lliwgar, i ddod ag afiaith rhyfeddol y cyfnod yn fyw i lwyfannau Cymru.
Cyfarwyddwr: Cefin Roberts
Cast yn cynnwys Owen Arwyn, Lis Jen Brown, Owen Garmon, Iola Hughes, Carwyn Jones, Iwan Tudor, Dyfan Roberts, Simon Watts
Mae tocynnau bellach ar werth mewn rhai canolfannau. Felly, archebwch yn fuan
<a class="" href="http://www.theatr.com/index.php?>Cliciwch yma am fanylion llawn dyddiadau’r daith.



