Archif Newyddion
Bedwen Lyfrau 07
4 – 5 Mai

Yn dilyn llwyddiant mawr y llynedd, mae Bedwen Lyfrau yn ôl yn Galeri Caernarfon. Ar benwythnos G?yl Fai cynhelir g?yl lyfrau a fydd yn cynnwys pob math o adloniant a difyrrwch i’r teulu cyfan gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru. Ymhlith rhai o’r digwyddiadau diddorol hyn, bydd 12 o lyfrau newydd ac amrywiol yn cael eu lansio a’u cyflwyno i’r cyhoedd am y tro cyntaf; bydd cystadleuaeth dweud jôc a helfa drysor lenyddol i blant; bydd cwis tafarn llenyddol; yn ogystal â llu o sgyrsiau ac adloniant i blant hŷn ac oedolion.
I gael cipolwg ar y wledd sydd ar gael i chi, ewch i http://bedwenlyfrau.blogspot.com/



