Archif Newyddion

G?yl Tŷ Newydd
7– 10 Mehefin 2007

Ty Newydd

Mae G?yl Tŷ Newydd ar ein gwarthaf unwaith yn rhagor, ac mae’r rhaglen yn edrych yn ddiddorol a chyffrous eto eleni. Dyma ragflas i un o brif ddigwyddiadau llenyddol Cymru.

Dydd Sadwrn 9 Mehefin

Gweithdy Cywydd gyda’r Prifardd Tudur Dylan Jones
Tŷ Newydd, 10.00 am, £4/£3
Cyfle i greu cywyddau, neu gwpledi cywydd o bob math yng nghwmni Tudur Dylan Jones. Croeso i bawb - y profiadol a’r amhrofiadol, yr hen a’r ifanc.

Ar Alwad y Corn Gwlad
Gwesty’r Marine Cricieth, 2.30 pm, £5/£3
Jon Gower sy’n holi tair o ferched sydd wedi enill prif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol - Eigra Lewis Roberts, Mererid Hopwood ac Angharad Price.

Clwb Darllen gyda Gwen Pritchard Jones
Gwesty’r Marine Cricieth, 5.00 pm, £5/£3
Darllenwch Dygwyl Eneidiau gan Gwen Pritchard Jones a dewch draw i’w holi am ei llyfr. Meg Elis fydd yn arwain y drafodaeth.

Pencerdd Tŷ Newydd
Gwesty’r Marine Cricieth, 7.30 pm, £5
12 o feirdd, yn cynnwys Mererid Hopwood, Twm Morys, Tudur Dylan, Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd yn cystadlu am y teitl o Bencerdd Tŷ Newydd. Bydd rhaid iddynt berfformio un gerdd ddwys ac un gerdd ddigri a byddant yn cael eu cloriannu gan T.James Jones a’i gyd feirniad, gyda mymryn o help gan y gynulleidfa.

Dydd Sul 10 Mehefin

Taith Gerdded
yn cychwyn o Tŷ Newydd, 10.00 am, £3
Taith gerdded yng nghwmni’r naturiaethwr Duncan Brown ar hyd afon a thraeth i weld sut y cafodd y tirwedd ei ffurfio gan natur drwy’r oesoedd. Mae Duncan wedi cyfrannu i nifer o ddigwyddiadau Tŷ Newydd ac yn cyfrannu colofn natur i’r Cymro.

Cinio Llenyddol
Gwesty Mynydd Ednyfed, 12.30 pm, £17
Bwyd da a chwmni difyr. Cinio dau gwrs ym Mynydd Ednyfed yng nghwmni’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Bydd hefyd gyfle i fwynhau s?n y delyn gyda Gwenan Gibbard. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i drefnu ar y cyd rhwng Tŷ Newydd a G?yl Cricieth.

Hwyl yr ?yl
Tŷ Newydd, 2.30 pm, £5 i oedolion, plant am ddim
Yn rhan o’r ?yl eleni bydd cyfle i bawb ddod i ymlacio yng ngardd hyfryd Tŷ Newydd. Bydd cyfle i gael tê ar y lawnt a gwrando ar stori neu ddwy gan y storiwr adnabyddus, Daniel Morden, mwynhau sioe bypedau Cwmni Cortyn, a chanu a dawnsio yng nghwmni Gwyneth Glyn, a’r  band, Newfolks. Hwyl i’r teulu oll.

Bydd rhaglen lawn yr ?yl ar gael trwy gysylltu â
Thŷ Newydd ar 01766 533811
neu trwy ymweld â’r safle wê
www.tynewydd.org