Archif Newyddion
Merched yn Bennaf
Glanfa, Canolfan Mileniwm Cymru
Nos Iau 10 Mai, 7.30 pm
MYNEDIAD AM DDIM

Heidiwch i glywed y gorau o lenyddiaeth newydd Cymraeg yng nghwmni tair awdur ifanc: Fflur Dafydd, Catrin Dafydd a Luned Emyr.
Fflur Dafydd: Awdur rhyddiaith, dramâu a cherddi. Graddiodd mewn Saesneg o Brifysgol Cymru Aberystwyth, cyn mynd ymlaen i wneud MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia, ac yna doethuriaeth ar waith y bardd R.S. Thomas ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd ym 1999 am ei chyfrol Y Gwir am Gelwydd, ac enillodd Fedal Ryddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2006 am ei chyfrol Atyniad. Ysgrifennodd hefyd ddramâu ar gyfer Sgript Cymru (Hugo, 2003) a Choleg y Drindod (Brewys, 2005). Y mae hi’n golygu y cylchgrawn Tu Chwith. mae hi nawr yn ddarlithydd rhan–amser yng Ngholeg y Drindod. Hi oedd awdur preswyl Ynys Enlli 2002, a hi yw cynrychiolydd Prydain yng Nguyl Lenyddiaeth y Scritture Giovanni 2005.
Catrin Dafydd: Awdures, dramodydd, bardd a pherfformwraig. Graddiodd Catrin mewn Cymraeg o Brifysgol Cymru Aberystwyth. Enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd 2005. Mae hi bellach yn gweithio fel awdur ar ei liwt ei hun. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf - Pili Pala gyda gwasg Gomer yn 2006 a hi yw Uwch-Olygydd y cylchgrawn Tu Chwith. Cafodd ei phenodi yn fardd preswyl yr Academi yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 2006. Darlledwyd ei drama radio gyntaf, Sua’r Gwynt ar Radio Cymru yn Rhagfyr, 2004 a darlledwyd ei drama Plymio yn 2006.
Luned Emyr: Dramodydd a sgriptwraig. Fe’i magwyd ym Mangor a’i haddysgu yno yn Ysgol Tryfan. Astudiodd Theatr, Ffilm a Theledu a Chymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.Yn 2002 enillodd ysgoloriaeth gan S4C, bwrsari gan Sgript Cymru a chefnogaeth ariannol gan Ffilmiau Eryri i fynychu’r Coleg Ffilm Ewropeaidd yn Nenmarc. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer y gyfres Tipyn o Stad ac mae dwy ffilm o’i gwaith, Caru a Cameo, wedi eu cynhyrchu ar gyfer y teledu. Enillodd Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn 1999, 2001 a 2003; ac yn 2002 daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Lenyddiaeth. Hi sy’n cyflwyno rhaglen gelfyddydau S4C/ Cwmni Da, Dim Ond Celf.
Yn cyflwyno’r noson fydd y sgriptiwr a’r golygydd, Manon Rhys. Golygydd Cyfres y Cewri, Ar fy Myw a Taliesin; ac awdur, sgriptiwr teledu gan gynnwys y cyfresi Pobl y Cwm a’r Palmant Aur.
Bydd y merched hefyd yn trafod bod yn lenorion benywaidd yng Nghymru heddiw.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Academi:
Prif Weithredwr: Peter Finch
post @academi.org neu 029 2047 2266



