Archif Newyddion

Prif Lenorion y Dyfodol

Sgwad Sgwennu’n gweithio gyda Caryl Lewis

Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am aelodau ar gyfer Sgwad Sgwennu newydd i ddechrau ym mis Medi 2007.   Pwrpas y Sgwadiau Sgwennu yw meithrin llenorion ifanc a rhoi’r math o sylw arbennig iddynt y byddai pobl ifanc gyfatebol yn y byd chwaraeon yn ei gael.  Y nod yw i annog y genhedlaeth nesaf o lenorion Cymru.  Felly os yw’ch plentyn chi ym Mlwyddyn 5 neu 6 o’r ysgol gynradd ac yn byw yng Ngwynedd, anfonwch dau ddarn o waith (un yn Gymraeg ac un yn Saesneg) ganddo/i at Gwen Lasarus cyn diwedd Gorffennaf.

Am ragor o wybodaeth cysytwch â Gwen Lasarus
Academi / Cyngor Gwynedd
Llyfrgell Caernarfon, Allt Pafiliwn,
Caernarfon, Gwynedd LL 55 1AS
01286 679465 neu
gwenlasarus@gwynedd.gov.uk