Archif Newyddion
Lawns tu chwith
Yr Orendy, Aberystwyth
8.00, 23 Mai 2007
Croeso i bawb yn lawns rhifyn cyfredol tu chwith. Dewch i fwynhau llên a cherddoriaeth gan artistiaid ifanc gorau Cymru.
Yn cymryd rhan fydd: Eurig Salisbury, Rhodri ap Dyfrig, Iwan Rhys, Hywel Griffiths a Catrin Dafydd. Yn ogystal a sesiwn acwstic gan Alun Gaffey, gitarydd Radio Luxemborg a Pwsi Meri Mew.
Bydd gwin a loli pops ar gael.
Mynediad am ddim
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
tuchwith@hotmail.com
Cylchgrawn arbrofol yw tu chwith sy’n gwthio’r ffiniau ac yn rhoi cyfle i bawb fod yn rhan o’r byd celfyddydol yng Nghymru.



