Archif Newyddion
G?yl Tŷ Newydd
7 – 10 Mehefin

Dyma’r ?yl gyntaf ar ôl i’r Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol ailagor yn dilyn y gwaith adnewyddu ac eleni mae’r ?yl yn cael ei chynnal yn yr haf. Dyma gyfle felly i fwynhau’r lleoliad gwych yn Eifionydd a bydd yr ?yl yn cymryd llawn fantais o hyn gyda theithiau cerdded, cyfle i ymweld â phentref Portmeirion, a phnawn i’r teulu yng ngerddi Tŷ Newydd. Mae yna fwyd a cherddoriaeth a chelf yn yr ?yl ond yn fwy na dim mae yna eiriau: geiriau gan feirdd, nofelwyr, gohebwyr a gwleidyddion, a chyfle i bawb o bob oed eu mwynhau. Dyma rhai o’r uchelbwyntiau:
Dydd Sadwrn 9 Mehefin
Ar Alwad y Corn Gwlad
Gwesty’r Marine Cricieth, 2.30 pm, £5/£3
Jon Gower sy’n holi tair o ferched sydd wedi ennill prif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol - Eigra Lewis Roberts, Mererid Hopwood ac Angharad Price.
Pencerdd Tŷ Newydd
Gwesty’r Marine Cricieth, 7.30 pm, £5
12 o feirdd, yn cynnwys Mererid Hopwood, Twm Morys, Tudur Dylan, Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd yn cystadlu am y teitl o Bencerdd Tŷ Newydd. Bydd rhaid iddynt berfformio un gerdd ddwys ac un gerdd ddigri a byddant yn cael eu cloriannu gan T.James Jones a’i gyd-feirniad, gyda mymryn o help gan y gynulleidfa.
Dydd Sul 10 Mehefin
Cinio Llenyddol
Gwesty Mynydd Ednyfed, 12.30 pm, £17
Bwyd da a chwmni difyr. Cinio dau gwrs ym Mynydd Ednyfed yng nghwmni’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Bydd hefyd gyfle i fwynhau s?n y delyn gyda Gwenan Gibbard. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i drefnu ar y cyd rhwng Tŷ Newydd a G?yl Cricieth.
Hwyl yr ?yl
Tŷ Newydd, 2.30 pm, £5 i oedolion, plant am ddim
Yn rhan o’r ?yl eleni bydd cyfle i bawb ddod i ymlacio yng ngardd hyfryd Tŷ Newydd. Bydd cyfle i gael tê ar y lawnt a gwrando ar stori neu ddwy gan y storiwr adnabyddus, Daniel Morden, mwynhau sioe bypedau Cwmni Cortyn, a chanu a dawnsio yng nghwmni Gwyneth Glyn, a’r band, Newfolks. Hwyl i’r teulu oll.
Archebwch eich tocynnau nawr trwy gysylltu â
Thŷ Newydd ar 01766 533811 neu post@tynewydd.org
Lawrlwythwch y rhaglen gyfan trwy ymweld â gwefan Tŷ Newydd
www.tynewydd.org
Cefnogir G?yl Tŷ Newydd gan yr Academi.



