Archif Newyddion
Agoriad Swyddogol Cae’r Gors

Dydd Mercher 16 Mai
Rhwng 1.00 pm a 4.00 pm
Bydd drysau Cae’r Gors, Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts yn agor yn swyddogol i’r cyhoedd ddydd Mercher 16 Mai 2007.
Wedi dros ddeugain mlynedd o waith hir a llafurus mae’r holl waith caled wedi dwyn ffrwyth, ac mae yn Rhosgadfan bellach gofeb haeddiannol i un o lenorion gorau ein cenedl.
Agorir y ganolfan gan Megan Williams, nith Kate Roberts a bydd Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru yn darllen cerdd a gomisiynwyd gan y Ganolfan. Y cyfranwyr eraill fydd, Dewi Tomos (Cadeirydd), Norman Williams, John Ogwen a Maureen Rhys. Yn ogystal, bydd lluniaeth yng Nghlwb Mountain Rangers.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn, cysylltwch â Sian E R Davies: 01286 882202 neu ewch i’r wefan: http://www.caergors.org/.
Noddir gan Academi.
Ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ynglŷn â noddi digwyddiadau.



