Archif Newyddion
10 yn dod yn 3 – Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007

Am 6.45 pm ddydd Llun 28 Mai 2007, bydd yr ail bennod yn hanes brwydr bwysicaf y byd llenyddol yng Nghymru yn cael ei datgelu yng Ng?yl y Gelli gyda chyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007.
Cyhoeddir y Rhestr Fer o 3 cyfrol Gymraeg a 3 cyfrol Saesneg mewn digwyddiad yn yr Elmley Foundation Theatre ar faes yr ?yl gyda John Rowlands yn traddodi beirniadaeth ar ran y panel Cymraeg a Katie Gramich yn adrodd beirniadaeth ar ran y panel Saesneg. Yn ogystal, bydd yr awduron yn trafod eu gwaith gyda chyn-ohebydd Celfyddydau y BBC, Jon Gower a bydd derbyniad gwin a sesiwn llofnodi llyfrau ar stondin Llenyddiaeth yng Nghymru yn dilyn y digwyddiad.
“Buasai’n hawdd bod wedi llunio Rhestr Hir o ugain cyfrol, gan fod nifer o lyfrau’n crefu am gael eu cynnwys, a ninnau’n gorfod dethol deg yn unig…" Dyna a ddywedodd John Rowlands, Cadeirydd Panel Beirniaid y cyfrolau Cymraeg eu hiaith pan gyhoeddwyd Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2007.
Fodd bynnag, mae nawr yn bryd i’r beirniaid grafu pen unwaith eto a wynebu’r dasg anodd, sef dethol tri llyfr o’r deg hynny yn y ddwy iaith i fod ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007.
Tybed, pwy gaiff gamu ar lwyfan G?yl y Gelli eleni felly? Os ydych chi am weld pwy yw’r ceffylau blaen yn y ras i ennill £10,000, sicrhewch eich tocynnau ar unwaith.
Mae’r tocynnau, sy’n rhad ac am ddim, ar gael nawr o Swyddfa Docynnau G?yl y Gelli: 0870 9901299
Gweinyddir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan yr Academi gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.




Mynd i’r fan a’r fan: Taith fws llenyddol gyda’r Prifardd Iwan Llwyd a Karen Owen
Meic Stephens yn 70 dathlu ei gyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru
Pam w tn nfon txt @a inau..? Gweithdy Tecstlynion Eurig Salisbury - rhan o Wyl Llên y Lli.
Deffro o drwmgwsg. Mae Gŵyl Llên y Lli 2008 yn addo deffro’r dychymyg. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhaglen sy’n cynnwys rhai o awduron mwyaf cyffrous Cymru…
Medal hanesyddol: Mererid Hopwood yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith.
Llanciau Llenyddol: Awduron ifanc yn dod i’r brig yn yr Eisteddfod
Yr Injan Odli - lansio gosodiad unigryw Cymdeithas y Rhyfeddod nos Wener 10 Hydref 2008