Archif Newyddion
Pabell Llenyddiaeth yng Nghymru
Yng Ng?yl Gelli’r Guardian
22 Mai – 2 Mehefin
Mae darllenwyr ac awduron yn siwr o dyrru i’r babell Llenyddiaeth yng Nghymru yng Ng?yl y Gelli yr wythnos nesaf i ddathlu cyfoeth llên Cymru. Nod Llenyddiaeth yng Nghymru yw cyflwyno gwaith clasurol a chyfoes o Gymru i gynulleidfaoedd newydd gyda chefnogaeth partneriaeth a luniwyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Academi.
Bydd pabell Llenyddiaeth yng Nghymru yn hafan braf i ymwelwyr o’r bwrlwm llenyddol ar faes yr ?yl, ac anogir ymwelwyr i eistedd, ymlacio a phori yn ein siop lyfrau a hwyrach brynu clasur o’r gyfres boblogaidd, Llyfrgell Cymru, llyfrau i blant neu gyfrolau gan awduron cyfoes. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau yn y babell trwy gydol cyfnod yr ?yl gan gynnwys darlleniadau gan Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru a Rachel Trezise enillydd gwobr Ryngwladol Dylan Thomas i lenor ifanc. Yn ogystal a hyn, bydd Archesgob Caergaint, Rowan Williams yn ymweld â’r babell ddydd Llun i ddarllen detholiad o’i gasgliadau o farddoniaeth. Yr awduron gwadd eraill ym mhabell Llenyddiaeth yng Nghymru fydd Gwyneth Lewis, Manon Rhys, James Hawes, Des Barry ac Owen Sheers.
Dydd Sadwrn 26 Mai
Tessa Hadley
11am - 2pm
Nofelydd a beiriniad. Awdur Accidents in the Home (Jonathan Cape, 2002).
Tristan Hughes
2pm - 5pm
Mae Send my Cold Bones Home (Parthian Books, 2006) ar Restr Fer Hir Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2007.
Dydd Sul 27 Mai
Gwyn Thomas
2pm - 5pm
Bardd Cenedlaethol Cymru. Awdur 16 cyfrol o farddoniaeth dros pum degawd. Ei gyfieithiad o’r Mabinogion yw’r fersiwn orau o bosib o’r chwedlau yn Saesneg.
Dydd Llun 28 Mai
Niall Griffiths
11am - 2pm
Enillodd Stump (Jonathan Cape, 2003) wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2004. Mae’n awdur chwe nofel arall gan gynnwys Runt (Jonathan Cape, 2006).
Archesgob Caergaint, Rowan Williams
3pm - 4pm
Bardd. After Silent Centuries (1994). Remembering Jerusalem (2001). Silence and Honey Cakes - the Wisdom of the Desert (Lion, 2004).
Dydd Mawrth 29 Mai
Gwyneth Lewis
11am - 1pm
Llenor a bardd. Hi luniodd y geiriau sydd i’w gweld ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru. Enillodd wobr llyfr y flwyddyn yn 2001 gyda Llofrudd Iaith (Barddas, 2000). Derbyniodd wobr Cymru Greadigol yn 2007 a hi oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru.
Des Barry
11am - 2pm
Bu i Western Writers of America bledleisio The Chivalry of Crime (Jonathan Cape, 2001) yn Nofel Gyntaf Orau ac fe gyrhaeddodd restr fer Gwobr llyfr y Flwyddyn 2006. dyfarnwyd Wobr Cymru Greadigol i Des Barry yn 2006.
James Hawes
2pm - 4pm
Nofelydd a beirniad. Awdur White Merc with Fins (Jonathan Cape, 1996). Dyfarnwyd iddo Wobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2007 am gofiant am Kafka.
Manon Rhys
2pm - 5pm
Awdur, sgriptiwr ar gyfer y teledu, golygydd a thiwtor ysgrifennu creadigol. Cydolygydd Taliesin, cylchgrawn llenyddol Cymraeg yr Academi. Dyfarnwyd iddi Wobr Cymru Greadigol yn 2007 ar gyfer ysgrifennu dilyniant i’w nofel aroesol Rara Avis.
Dydd Mercher 30 Mai
Mike Parker
11am - 2pm
Awdur cyfrolau taith, colofnydd, awdur ffuglen, darlledwr a digrifwr. Awdur Neighbours from Hell (Y Lolfa, 2007).
Trevor Fishlock
2pm - 5pm
Gohebydd gyda The Times yn India, a phennaeth y bureau i’r Daily Telegraph yn Efrog Newydd a Moscow. Ysgrifenna a chyflwyna cyfres The Wild Tracks i ITV. Awdur Conquerors of Time: Exploration and Invention in the Age of Daring (John Murray, 2006).
Dydd Iau 31 Mai
Jane Morris
11am - 5pm
Mae Jane yn rhedeg cwmni chyoeddi anibynnol bychan yn Bulawayo or enw AMA Books. Cyhoedda AMA gyfres ysgrifennu creadigol, Short Stories from Bulawayo. Bu’n gyfrifol am ymweliad Owen Sheers â Bulawayo yn 2006 dan adain Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Dydd Gwener 1 Mehefin
Owen Sheers a Tinashe Mushavanhu
11.30am - 1pm
Mae Owen yn fardd, awdur ffuglen ac yn ddramodydd. Enillodd The Dust Diaries (Faber, 2004) Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Enillodd Skirrid Hill (Seren,2005) Wobr Somerset Maugham yn 2006. Resistance (Faber, Mehefin 2007 yw ei nofel gyntaf.
Mae Tinashe yn awdur o Harare yn Zimbabwe sydd ar hyn o bryd yn astudio gyda Menna Elfyn ar ei chwrs ysgrifennu creadigol yng Ngholeg y Drindod. Cyflwynodd bapur yn Gregynog yn ddiweddar, ar y testun, Life Writing in Wales.
Francesca Kay
2pm - 5pm
Bardd, gardwraig, perlysieuydd a llenor. Mae ei chyfresi o ganeuon yn cynnwys Hail Taliesin a Green Isles of the Ocean. Cydweithiodd â’r canwr a’r cerddor Ray Weatherill ar The Last Cut (Accent, 2005), sef casgliad o ganeuon a barddoniaeth serch.
Dydd Sadwrn 2 Mehefin
Rachel Trezise
11am - 2pm
Nofelydd ac awdur straeon byrion. Enillydd cyntaf Gwobr Dylan Thomas, gwerth £60,000 am ei chasgliad o straeon byrion Fresh Apples, (Parthian). Bu ar daith gyda’r band roc Midasuno i ymchwilio i Dial M for Merthyr (Parthian, 2007).
Am fwy o wybodaeth cysyltwch â:
http://new.wales.gov.uk/campaigns/summerevents/hayfestival
or
www.hayfestival.com




Cerdd er cof am Wil Sam gan y Bardd Cenedlaethol, Gwyn Thomas.
Awduron yn gwrthdystio. Ydych chi’n cytuno y dylid talu awduron am ddefnyddio eu deunydd ym mhrosiect digideiddio Cylchgronau Cymru?