Archif Newyddion

Gŵyl Tŷ Newydd
7– 10 Mehefin 2007

Ty Newydd

Penwythnos o eiriau yn gymysg â bwyd, diod, cerddoriaeth, awyr iach, celf a chwmnïaeth

Mae Gŵyl Tŷ Newydd ar ein gwarthaf unwaith yn rhagor, ac mae’r rhaglen yn edrych yn ddiddorol a chyffrous eto eleni. Pa ffordd well i ddechrau’r haf, na thaith i brydferthwch Eifionydd a’r cyfle i fwynhau llenyddiaeth ar ei gorau.

Yn yr ŵyl eleni bydd cyfle i dderbyn gwers mewn llunio cywydd gyda Tudur Dylan. Os yw hynny’n golygu gormod o waith meddwl ichi, ewch am daith gerdded yng nghwmni’r naturiaethwr Duncan Brown, neu beth am ginio llenyddol gyda’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Ar y nos Sadwrn, bydd cystadleuaeth i wobrwyo Pencerdd Tŷ Newydd, ac ar y dydd Sul bydd cyfle i’r teulu oll ymweld â gardd hyfryd Tŷ Newydd lle bydd digon o weithgareddau i gadw pawb yn hapus. 

Hyn i gyd a llawer mwy. Archebwch eich tocynnau nawr.
Mae rhaglen lawn yr ŵyl ar gael drwy glicio yma.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich tocynnau cysylltwch â:
Thŷ Newydd ar 01766 533811
neu trwy ymweld â’r safle wê
www.tynewydd.org