Archif Newyddion
Gweithdy Rap
Mehefin 16 2007
Canolfan Mileniwm Cymru

Os ydych chi rhwng 11 – 16 mlwydd oed ac yn mwynhau cerddoriaeth, dyma’r digwyddiad i chi.
Mae’r Academi ar y cyd â’r Urdd a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cynnal gweithdy rap yn nghwmni dau o brif artistiaid hip–hop Cymru:
Ed ‘Mr.Phormula’ Holden a Nei ‘Nine Tonn’ Karadog.
Mae’r ddau’n aelodau o’r bandiau Genod Droog a’r Diwygiad, ac fe fyddant yn arwain ac yn cynghori’r artistiaid ifanc yn ystod y dydd. Bydd cyfle hefyd i arddangos ffrwyth eich llafur ar lwyfan Glanfa, Canolfan Mileniwm Cymru cyn diwedd y dydd.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r:
Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
029 2047 2266 neu post@academi.org
www.academi.org




Cerdd er cof am Wil Sam gan y Bardd Cenedlaethol, Gwyn Thomas.
Awduron yn gwrthdystio. Ydych chi’n cytuno y dylid talu awduron am ddefnyddio eu deunydd ym mhrosiect digideiddio Cylchgronau Cymru?