Archif Newyddion
Pabell Llenyddiaeth yng Nghymru
Yng Ng?yl Gelli’r Guardian

26 Mai – 2 Mehefin
Mae darllenwyr ac awduron yn siwr o dyrru i babell Llenyddiaeth yng Nghymru yng Ng?yl y Gelli yr wythnos nesaf i ddathlu cyfoeth llên Cymru. Nod Llenyddiaeth yng Nghymru yw cyflwyno gwaith clasurol a chyfoes o Gymru i gynulleidfaoedd newydd gyda chefnogaeth partneriaeth a luniwyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Academi.
Bydd pabell Llenyddiaeth yng Nghymru yn hafan braf i ymwelwyr o’r bwrlwm llenyddol ar faes yr ?yl, ac anogir ymwelwyr i eistedd, ymlacio a phori yn ein siop lyfrau a hwyrach brynu clasur o’r gyfres boblogaidd, Llyfrgell Cymru, llyfrau i blant neu gyfrolau gan awduron cyfoes. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau yn y babell trwy gydol cyfnod yr ?yl gan gynnwys darlleniadau gan Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru a Rachel Trezise enillydd gwobr Ryngwladol Dylan Thomas i lenor ifanc. Yn ogystal â hyn, bydd Archesgob Caergaint, Rowan Williams yn ymweld â’r babell ddydd Llun i ddarllen detholiad o’i gasgliadau o farddoniaeth. Yr awduron gwadd eraill ym mhabell Llenyddiaeth yng Nghymru fydd Gwyneth Lewis, Manon Rhys, James Hawes, Des Barry ac Owen Sheers.
I gael gweld pwy fydd ar stondin Llenyddiath yng Nghymru pan fyddwch chi’n ymweld â’r ?yl, gweler yma.
Am ragor o wybodaeth cysyltwch â:
http://new.wales.gov.uk/campaigns/summerevents/hayfestival
neu
www.hayfestival.com




Cerdd er cof am Wil Sam gan y Bardd Cenedlaethol, Gwyn Thomas.
Awduron yn gwrthdystio. Ydych chi’n cytuno y dylid talu awduron am ddefnyddio eu deunydd ym mhrosiect digideiddio Cylchgronau Cymru?