Archif Newyddion

Llyfr y Flwyddyn yng Ng?yl y Gelli

Pwy?

Cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007
28 Mai – 6.45 pm
Elmley Foundation Theatre, G?yl y Gelli

Sicrhewch eich bod chi wedi archebu’ch tocynnau ar gyfer y digwyddiad cynhyrfus hwn ddydd Llun y Sulgwyn.

Am 6.45 pm ddydd Llun 28 Mai 2007, bydd yr ail bennod yn hanes brwydr bwysicaf y byd llenyddol yng Nghymru yn cael ei datgelu yng Ng?yl y Gelli gyda chyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007.

Cyhoeddir y Rhestr Fer o 3 cyfrol Gymraeg a 3 cyfrol Saesneg mewn digwyddiad yn yr Elmley Foundation Theatre ar faes yr ?yl gyda John Rowlands a Katie Gramich yn cyflwyno beirniadaethau ar ran y ddau banel o feirniaid.  Yn ogystal, bydd yr awduron yn trafod eu gwaith gyda chyn-ohebydd Celfyddydau y BBC, Jon Gower a bydd derbyniad gwin a sesiwn llofnodi llyfrau ar stondin Llenyddiaeth yng Nghymru i ddilyn.

Pwy yw’r tri detholedig?  Pwy gaiff gamu ar lwyfan yr ?yl eleni?  Os ydych chi am fod ymhlith y cyntaf i ddarganfod pwy yw’r ceffylau blaen eleni, sicrhewch eich tocynnau ar unwaith.

Mae’r tocynnau, sy’n rhad ac am ddim, ar gael o Swyddfa Docynnau G?yl y Gelli:
0870 9901299

Gweinyddir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan yr Academi gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.