Archif Newyddion

A Wyddoch Chi Beth Sy’n Eiddo i Chi?

Hawlfraint

Wyddoch chi beth sy’n eiddo i chi?  Syniad niwlog iawn sydd gan y rhan fwyaf o awduron.  Yr erthygl yna werthoch chi i gyfnodolyn flynyddoedd maith yn ôl – mi dalon nhw amdani, felly nhw sy piau hi, yntê?  Eich cerdd yn rhifyn #106 Taliesin, y mae rhywun am ei chynnwys yn awr mewn blodeugerdd - mater i’r cyhoeddwyr yw rhoi caniatâd, yntê?  Wel, nid yn hollol.  Deddfau hawlfraint sy’n rheoli perchenogaeth ar gynnyrch awdur.  Yn y Deyrnas Unedig does dim angen i chi wneud dim i gofrestru hynny.  Wedi ichi ysgrifennu rhywbeth, chi biau’r hawlfraint fel mater o drefn.  Mae yna hawlfraint dros ffurf y geiriau a ddefnyddiwch, neu union frawddegau’r darn neu linellau’r gerdd, ond nid dros y syniadau y tu ôl iddynt.  Mae cynllun darn o waith yn rhydd rhag hawlfraint.  Felly hefyd syniadau.  Ond nid felly’r geiriau a ddefnyddir i roi ffurf iddynt.  Bydd yr hawlfraint dros eich geiriau’n parhau tra byddwch chi, ac wedi ichi farw bydd yn parhau fel ased sy’n eiddo i’ch ystâd am ddeg a thrigain o flynyddoedd yn rhagor.  Wedi hynny bydd y gwaith yn mynd yn eiddo cyhoeddus.  Gellir wedyn ei ddefnyddio heb ganiatâd na thâl.  Ewch i’ch siop lyfrau leol – yno cewch nofelau newydd clawr papur a’u prisiau’n amrywio o £5.50 i £15.00.  Gerllaw bydd silff o glasuron y byd a’r hawlfraint drostynt wedi dirwyn i ben, a bydd y rheiny’n gwerthu am y nesa peth i ddim.  Mae awduron y nofelau newydd fel rheol yn cael breindal.  Yn achos y clasuron, does dim arian yn newid dwylo.


Pan gynhwysir darn o waith awdur mewn cylchgrawn neu flodeugerdd mae’r cyhoeddwyr yn ei gael ar rent. Byddant yn cael yr hyn a elwir yn hawlfraint cyfres gyntaf. Mae ganddynt hawl i’w ddefnyddio unwaith. Yn gyfnewid, os ydynt yn sefydliad proffesiynol efallai y byddant yn talu ffi i’r awdur neu, fel arall, yn rhoi copi am ddim iddo neu iddi. Mae twyll a chafflo’n dechrau pan na fydd awdur yn cael na chopïau cyfarch o’r cylchgrawn y mae ei waith yn ymddangos ynddo na ffi, a phan ddisgwylir yn hytrach iddo dalu am gopi. Os cewch gynnig tebyg i hyn, cyngor yr Academi yw ei wrthod.


Mae ystyriaeth debyg yn berthnasol i gyhoeddi llyfrau neu waith a gomisiynir ar gyfer y radio neu’r teledu.  Dylai cyhoeddwyr eich llyfr gynnig contract i chi a fydd naill ai’n talu blaendal sy’n swm tebyg i’r breindal y gallech ei ennill ar yr argraffiad cyntaf, neu’n cytuno i dalu’r breindal ichi ar ôl iddo gael ei ennill (h.y. trwy werthiant copïau).  Telir breindal yn flynyddol.  Mae rhai cyhoeddwyr yn cynnig cymysgedd o flaendal a breindal.  Swm o arian i ddechrau a’r gweddill i ddilyn.  Os yw’r cyhoeddwr yn fach iawn yn aml nid oes breindal o gwbl, ond telir yn hytrach trwy ewyllys da a chopïau am ddim.  Unwaith eto mae’r twyllo’n dechrau pan fydd y cyhoeddwr yn dechrau awgrymu efallai yr hoffech gyfrannu at gostau cynhyrchu.  Cymerwch ofal.  Nid talu yw lle’r awdur, ond cael ei dalu.  Byddwch yn broffesiynol.

I ddarllen yr erthygl gyfan gan Brif Weithredwr yr Academi: Peter Finch, cliciwch yma.