Archif Newyddion

Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2007 – Archebwch eich tocynnau nawr

Llyfr y Flwyddyn 2007

Bellach, wrth gwrs, mae’r Academi wedi cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007 o dair cyfrol ymhob iaith. Dyfernir gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2007 i’r gyfrol orau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol. Bydd y ddau enillydd yn derbyn £10,000 yr un, a’r pedwar a ddaw yn agos at y brig yn derbyn £1,000 yr un, mewn seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd nos Lun 9 Gorffennaf 2007

“Fe allech feddwl mai tasg ysgafn fyddai llunio Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn o gymharu â marathon llunio’r Rhestr Hir. Deg llyfr oedd gennym i’w darllen y tro hwn, ac roeddem eisoes wedi’u darllen unwaith. Eto i gyd, rhaid cyfaddef iddi fod yn dipyn o wewyr dewis tair cyfrol ar gyfer y Rhestr Fer,” dyna a ddywedodd John Rowlands, Cadeirydd Panel Beirniaid y cyfrolau Cymraeg eu hiaith pan gyhoeddwyd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007. 

Fodd bynnag, mae nawr yn bryd i’r beirniaid grafu pen unwaith eto a wynebu’r dasg anoddaf un, sef penderfynu pa un o’r dair gyfrol yma a ddylid ei gwobrwyo yn ‘Llyfr y Flwyddyn 2007’ yn y seremoni fawreddog yng Ngwesty’r Hilton fis Gorffennaf. 

Bydd y noson arbennig hon yng nghwmni Rhun ap Iorwerth a’r Athro Dai Smith gyda cherddoriaeth gan Gr?p Jazz Paul JonesPris tocyn arferol yw £40, ond rydym yn cynnig pris arbennig i Aelodau’r Academi o £35 y pen (yn cynnwys gwydraid o siampên wrth i chi gyrraedd, pryd bwyd tri chwrs a choffi). Yn ogystal, gallwch archebu bwrdd cyfan o 10 am bris gostyngedig o £350 y bwrdd.

Fel yn y blynyddoedd diwethaf, mae galw mawr am docynnau i’r seremoni, felly archebwch eich tocynnau nawr drwy gysylltu â’r Academi: 029 2047 2266 neu post@academi.org

Gweinyddir y wobr gan Academi gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.