Archif Newyddion

Gweithdy Rap
Mehefin 16 2007
Canolfan Mileniwm Cymru
10 am – 6 pm

Y Diwygiad

Diwrnod yng nghwmni dau o gerddorion mwyaf talentog Cymru, Ed Holden ac Aneirin Karadog. Mae’r ddau yn rapwyr profiadol ac yn chwarae gyda’r bandiau Genod Droog a’r Diwygiad. Os ydych chi rhwng 11 -16 mlwydd oed ac yn ffansio eich hun fel yr Eminem neu’r Jay-Z nesaf, peidiwch oedi rhagor ac archebwch eich lle nawr. Cewch hefyd gyfle i berfformio eich caneuon newydd ar lwyfan Glanfa, Canolfan Mileniwm Cymru yng nghwmi’r ddau rapiwr.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r:
Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
029 2047 2266 neu
post@academi.org
www.academi.org