Archif Newyddion
Tafwyl 2007

Bydd G?yl Gymraeg newydd sbon yn digwydd yng Nghaerdydd rhwng 16 – 24 Mehefin 2007.
Bydd ‘Tafwyl’, g?yl wythnos o hyd, yn cynnig croestoriad o weithgareddau yn y Gymraeg, o chwaraeon a cherddoriaeth i lenyddiaeth a chomedi.
Bydd y cyfan yn dechrau yng ngerddi tafarn y Mochyn Du ym Mhontcanna am 12.30pm ddydd Sadwrn gyda ffair haf a llu o adloniant a stondinau. Yn ymuno â’r bwrlwm fydd Glyn Wise (Big Brother) a Magi Dodd – Radio Cymru, Band Jazz Siglen 5, perfformiadau gan ysgolion Cymraeg a di–Gymraeg y ddinas, Heather Jones, sioe Ribidires….
Ymhlith gweithgareddau eraill yr wythnos bydd gigs Ieuenctid, noson Gomedi, Helfa Drysor hanesyddol, noson Karaoke, Cystadlaethau Golff, Rygbi Touch a Pheldroed, Miri Meithrin, Bore Coffi i Ddysgwyr a noson wyddonol.
Yn ogystal, bydd noson ’Byw yn y Ddinas’ am 8.00 pm nos Sadwrn, 23 Mehefin yn Nhafarn y Duke of Clarence, Treganna. Yn y digwyddiad diddorol hwn, bydd Beti George yn holi Elin Tudur, Liz Miles, Branwen Gwyn, Alun Guy, Owen Powell a Gary Slaymaker ynglyn â’u profiadau o fyw yng Nghaerdydd. Nod Tafwyl yw hybu’r ystod o weithgareddau Cymraeg sydd ar gael drwy’r flwyddyn yn y brifddinas, yn ogystal â chodi proffil yr iaith yng Nghaerdydd.
Meddai Siân Lewis, Prif Swyddog Menter Caerdydd “Pwrpas Tafwyl ydi codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yng Nghaerdydd a dangos i bobl fod yr iaith Gymraeg yn ar dwf ac yn fyw tu allan i furiau’r ysgol a lleoliad gwaith. Mae yna ystod o wahanol weithgareddau a digwyddiadau Cymraeg sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd a bydd yr uyl arbennig hon yn cynnig ffenestr siop ar nifer o’r gweithgareddau hynny.”
Ceir rhaglen lawn Tafwyl ar www.tafwyl.org neu drwy ffonio 029 20 565658 neu e-bostio menter@caerdydd.org.
Noddwyd noson ’Byw yn y Ddinas’ gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau)




Cerdd er cof am Wil Sam gan y Bardd Cenedlaethol, Gwyn Thomas.
Awduron yn gwrthdystio. Ydych chi’n cytuno y dylid talu awduron am ddefnyddio eu deunydd ym mhrosiect digideiddio Cylchgronau Cymru?