Archif Newyddion

Cyhoeddi Bardd Plant Cymru 2007–2008

Caryl Parry Jones

Mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Gâr ddydd Mawrth 29 Mai, trosglwyddodd Gwyneth Glyn mantell Bardd Plant Cymru, wrth iddi gyhoeddi mai Bardd Plant Cymru 2007-2008 yw Caryl Parry Jones o’r Bont Faen ym Mro Morgannwg.

Cynllun ar y cyd rhwng S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Academi ac Urdd Gobaith Cymru yw Bardd Plant Cymru, a’r bwriad yw codi proffil barddoniaeth ymysg yr ifanc, a’u hannog i greu a mwynhau cerddi. 

Yn ogystal â chyfansoddi caneuon, mae Caryl wedi ysgrifennu sawl ffilm i blant gan gynnwys ysgrifennu sgript a chaneuon Y Dyn Nath Ddwyn y Nadolig (1985) ar y cyd â Hywel Gwynfryn ac Anrheg Elin (2000).  Hefyd, mae Caryl wedi cyfrannu at gyfrol o farddoniaeth wedi’i ysbrydoli gan fywyd ar goridorau ysgol, Caneuon y Coridorau (Gwasg Carreg Gwalch, 2005) a chasgliad o garolau, Carolau Caryl (Gwasg Carreg Gwalch, 2000).

Yn aelod o dîm Talwrn Y Taeogion, mae Caryl yn edrych ymlaen i dderbyn mantell Bardd Plant Cymru.  Meddai: “Mae hon yn joban dwi’n edrych mlaen yn aruthrol tuag ati. Does dim yn fwy deniadol, gonest a byw na dychymyg plentyn ac mae cael cyfle i grwydro drwy’r tiroedd breision hynny yn ddim llai na braint. Dwi’n gobeithio cael oriau o hwyl a sawl agoriad llygad. Diolch i bawb fu’n gyfrifol am fy ethol i’r swydd.”

Am ragor o fanylion ar Fardd Plant Cymru, cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 neu post@academi.org

Dyma gerdd a luniodd Gwyneth Glyn i gyfarch Caryl Parry Jones:

Croeso Caryl!

(I’w chanu ar dôn ‘Chwarae’n troi’n chwerw.’)

Mae dy ddosbarth di yn ddiflas,
rwyt ti’n ddiog iawn dy fyd.
Ti’n blino ar y symiau maith
a’r profion hir o hyd.
Ond mae ‘na Fardd Plant newydd
a ddaw i’n deffro ni
hefo odl a chân
a llais sy mor lân,
ie Caryl ydi hi!

CYT:  Ac mae chwerw’n troi’n chwarae,
 mae’r sur yn troi’n sêr,
 mae’r dagrau’n troi’n wenau
 a’r cur yn troi’n bêr.
 Felly croeso i Caryl,
 a’i doniau di-ri!
 Cofia bod chwerw’n troi’n chwarae
 wrth chwarae â hi!

Mai’n c?l, a mae hi’n canu,
mai’n dawnsio a mai’n dlws.
Bydd disgo ar y desgiau
pan mai’n cerdded mewn drwy’r drws.
Mai’n ddoniol a mai’n ddawnus,
llawn hyder a llawn hud.
O ma Caryl yn sbri,
a mai am rannu â ni,
a gyda phlantos Cymru i gyd!

CYT:  Ac mae chwerw’n troi’n chwarae,
 mae’r sur yn troi’n sêr,
 mae’r dagrau’n troi’n wenau
 a’r cur yn troi’n bêr.
 Felly croeso i Caryl,
 a’i doniau di-ri.
 Cofia bod chwerw’n troi’n chwarae
 wrth chwarae â hi!

Gwyneth Glyn
Bardd Plant Cymru 2006-2007