Archif Newyddion
Y Celfyddydau – Creu Cymru Newydd
Cynhadledd Flynyddol Cyngor y Celfyddydau

14 Mehefin
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Yn y gynhadledd eleni bydd trafod am dwf dylanwad economaidd y celfyddydau, i’r bri a roddir i gelfyddydau Cymru dramor a thwf hefyd yn y niferoedd sy’n cyfranogi i’r celfyddydau; mae i’r celfyddydau rym gweddnewidiol pendant yn y broses o adfywio, adnewyddu ac adfywhau ein economi, cymunedau, amgylchedd ffisegol, ardaloedd gwledig, ac yn wir ni ein hunain.
Yn ystod y gynhadledd eleni ceir areithiau gan yr Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Robert Hewison, Ymchwilydd Cyswllt gyda Demos ac Elen ap Robert a Gwyn Roberts o Galeri, Caernarfon. Bydd sesiynau trafod agored yn gyfle i’r mynychwyr gael dweud eu dweud am ystod o bynciau a cheir enghreifftiau ysbrydoledig o’r modd y mae’r celfyddydau’n adfywio cymunedau, yr amgylchedd ffisegol, yr economi ac ardaloedd gwledig. Mae rhywfaint o lefydd ar ôl ar gyfer y gynhadledd.
Am ragor o wybodaeth a manylion ymrestru ewch i wefan CCC yn www.celfcymru.org.uk




Cerdd er cof am Wil Sam gan y Bardd Cenedlaethol, Gwyn Thomas.
Awduron yn gwrthdystio. Ydych chi’n cytuno y dylid talu awduron am ddefnyddio eu deunydd ym mhrosiect digideiddio Cylchgronau Cymru?