Archif Newyddion
Marion Eames
1921 – 2007

Bu farw Marion Eames yn 85 oed ddydd Mawrth diwethaf, y 3ydd o Ebrill 2007. Hi oedd un o nofelwyr mwyaf blaenllaw Cymru ac yn Gymrawd yr Academi.
Daeth i amlygrwydd gyda’i nofel Y Stafell Ddirgel (1969) yn ymwneud ag erledigaeth y Crynwyr yn ardal Dolgellau, Meirionnydd a’u mudo i’r Unol Daleithiau. Fe’i dilynwyd ymhen tair blynedd gan Y Rhandir Mwyn (1972) yn dilyn hynt y Crynwyr yn ymsefydlu yn y Wlad Newydd dan arweiniad William Penn ym Mhensylfania. Addaswyd y ddwy nofel ar gyfer y teledu gan y BBC ac fe’u cyfieithwyd i’r Saesneg yn y Saithdegau. Yn 1982 sgrifennodd nofel i gydfynd a gweithgareddau i nodi saith canmlwyddiant lladd Llywelyn Ein Llyw Olaf, Y Gaeaf Sydd Unig (1982).
Teyrnged Derec Llwyd Morgan
Yn talu teyrnged i Marion Eames ar Post Pnawn ar BBC Radio Cymru gosododd Derec Llwyd Morgan hi "yn rheng flaen" nofelwyr Cymru.
"Yr oedd triniaeth Marion Eames o’r cyfnod [yn Y Stafell Ddirgel a’r Rhandir Mwyn] yn ofnadwy o gyfoethog . . . ac yr oedd hi’n adnabod crefyddolder a bodolrwydd ei phobl ac fe ystytrir y nofelau o’r dechrau yn weithiau pwysig," meddai. "Ar ddau gam megis yr oedd Marion Eames yn rheng flaenaf nofelwyr ei gwlad.”
Cymru fach
"Yr oedd ei gwlad hi, ei hen hanes a’i gwleidyddiaeth gyfoes, yn bwysig ofnadwy i Marion Eames," meddai.
Cyfeiriodd hefyd at ei nofel I Hela Cnau (1978) am rai a ymfudodd o Gymru, eto, ond i Benbedw y tro hwn, yn oes Victoria.
"Ac eto mae ei hoff Sir Feirionnydd hi yma yn amlwg - ac rwy’n pwysleisio Sir Feirionnydd achos yn Nolgellau y magwyd Marion Eames ac i Ddolgellau y dewisodd hi fynd i fyw ar ôl ymddeol - ond ym Mhenbedw y’i ganed hi a does dim amheuaeth iddi weithio profiad teuluol ac astudiaeth bersonol yn ddychmygus dda [i’r nofel]," meddai.
Gwahanol eto
Disgrifiodd nofel arall, Seren Gaeth (1985) fel un "wahanol eto" yn ymwneud â hanes priodas fer Morfudd Llwyn Owain y cerddor ag Ernest Jones, cofiannydd Sigmund Freud. Ond ychwanegodd bod rhywfaint ohoni hi ei hun yn y nofel hon hefyd.
"Oherwydd yr oedd hi yn gerddgar ac yn eu hieuenctid wedi astudio’r piano a’r delyn yn ysgol Y Guildhall yn Llundain. Ond yn wahanol i Hanna yn y nofel nid gydag academydd y priododd Marian Eames ond gyda newyddiadurwr, gur bonheddig, hyfryd, o’r enw Griffith Williams.
Dyddiau cynnar
Cafodd ei geni ar Lannau Mersi yn 1921 a’i chodi yn Nolgellau lle y bu farw yn yr ysbyty yno. Mewn erthygl yn 1998 dywedodd taw ychydig o Gymraeg oedd ganddi cyn cyrraedd Cymru.
"Rwy’n cofio yn yr ysgol gynradd yn Nolgellau cael fy rhoi i eistedd ar wahân efo rhyw hanner Sais bach arall a theimlo cymaint o waradwydd fel yr oeddwn i yn casáu clywed yr iaith."
Yn fuan dechreuodd fagu cariad at iaith a hanes Cymru. Bu’n llyfrgellydd yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, a magu cylch o ffrindiau oedd yn llengarwyr mawr a dechrau teimlo o’r diwedd ei bod hi’n perthyn. Hwn oedd yr ysgogiad, meddai hi, i sgrifennu yn Gymraeg. Daeth yn drefnydd rhanbarthol Plaid Cymru, ac yn olygydd papur lleol Y Dydd yn Nolgellau. Wedyn astudiodd y piano a’r delyn yn Ysgol Gerdd y Guildhall yn Llundain. Yn 1957 priododd y newyddiadurwr Griffith Williams. Daeth yn ôl i Gymru a chael swydd cynhyrchydd radio BBC Cymru. Ymddeolodd yn 1980.
’Pechod’
Mewn erthygl yn Barn gofynnodd y golygydd iddi a oedd rhywbeth y byddai’n ei restru o dan y pennawd "diddordebau eraill"?
"Oes, pechod," meddai. "Pa ddiddordeb gwell i nofelydd?
"Na, nid ymgais i fod yn glyfar ond ffordd o ddweud yw hyn, wrth gwrs, mai pobl yw fy niddordeb.
"Nid mewn dinas fawr y gwelwch chi bechod ar ei orau (neu ar ei waethaf) oherwydd yno mi fyddwch chi’n ymdroi yn yr un cylch bach cyfyng…
"Ond mewn tre fach lle mae pawb yn adnabod ei gilydd … mae cyfle i ymgydnabod â phob pechod dan haul."
Dywedodd fod ei diddordeb mewn pobl yn arwain at ddiddordeb mewn crefydd.
"Perthynas dyn â’r anfeidrol - a thrwy hynny â’i gyd-ddyn - yw’r unig beth o bwys yn y pen draw."




Cerdd er cof am Wil Sam gan y Bardd Cenedlaethol, Gwyn Thomas.
Awduron yn gwrthdystio. Ydych chi’n cytuno y dylid talu awduron am ddefnyddio eu deunydd ym mhrosiect digideiddio Cylchgronau Cymru?