Archif Newyddion
Edrych yn ôl ac Edrych Ymlaen
Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2007
Cyhoeddwyd Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2007 nos Wener 2 Mawrth 2007 fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr. Roedd y gynulleidfa yn nigwyddiadau’r cyhoeddi yn y Senedd ym Mae Caerdydd ac yn Llyfrgell Dinbych, ymhlith y cyntaf i glywed pa 10 llyfr yw’r goreuon ymhlith yr holl rai cymwys a gyhoeddwyd yn 2006 yn nhyb y beirniaid John Rowlands, Gwion Hallam ac Elinor Jones.
Cawn dreiddio ymhellach i orffennol lliwgar Cymru a chipolwg o’r hyn sydd i ddod gyda’r casgliad diddorol o bump nofel, dau gofiant, un hunangofiant, un gyfrol o farddoniaeth ac un llyfr ffeithiol sydd wedi cyrraedd y Rhestr Hir eleni.
Ceir enwau cyfarwydd iawn ar y Rhestr Hir eleni: gyda Gwen Pritchard Jones ac Aled Jones Williams ymhlith yr awduron mwyaf blaengar yn y Gymraeg. Ond bydd yr awduron newydd, Catrin Dafydd, Llwyd Owen a Tony Bianchi, yn gobeithio y gall eu nofelau hwy ddal eu tir yn erbyn yr awduron mwy profiadol.
Gyda dwy o’r astudiaethau cofiannol a ymddengys ar y rhestr, y naill gan T. Robin Chapman wedi’i seilio ar fywyd Saunders Lewis a’r llall gan Arwel Vittle yn gofiant i Lewis Valentine, cawn olwg ar fywyd dau o gymeriadau mwyaf blaenllaw a dadleuol Cymru’r ugeinfed ganrif – ac efallai chwalu rhai o’r mythau amdanynt. Awn yn ôl i gyfnod cythryblus diwygiad Methodistaidd y ddeunawfed ganrif â’r portread o’r diwygiwr tanboeth ac enigmatig, Howell Harris gan Herbert Hughes; a chawn gloddio i orffennol diddorol un o ffigyrau mwyaf allweddol ym mywyd diwylliannol a cherddorol y Gymru gyfoes yn hunangofiant dadlennol Alwyn Humphreys.
Un gyfrol o farddoniaeth yn unig a fynnodd ei lle ar y Rhestr Hir eleni, sef casgliad cynnil ac iasol John Fitzgerald.
Dywed John Rowlands, Cadeirydd panel y beirniaid Cymraeg: “Buasai’n hawdd bod wedi llunio Rhestr Hir o ugain cyfrol, gan fod nifer o lyfrau’n crefu am gael eu cynnwys, a ninnau’n gorfod dethol deg yn unig…Diolch am wledd o ddarllen, llongyfarchiadau calonnog i’r deg awdur a gyrhaeddodd y Rhestr Hir a diolch am lawer o ddanteithion eraill gan yr awduron na chyrhaeddodd y rhestr y tro hwn.”
Wedi’r lansiad cyffrous, bydd cyfres o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru gydag awduron y Rhestr Hir. Cadwch lygad ar wefan yr Academi – www.academi.org – am wybodaeth am ddigwyddiadau yn lleol i chi.
Os hoffech wybod mwy am y personoliaethau difyr sy’n gyfrifol am gampweithiau’r Rhestr Hir, ymunwch â ni yng Ng?yl Llên y Lli ar nos Sadwrn, 21 Ebrill. Mewn digwyddiad anffurfiol bydd Francesca Rhydderch yn cyfweld â rhai o awduron y cyfrolau Saesneg eu hiaith a bydd Ion Thomas yn cyfweld â rhai o awduron y cyfrolau Cymraeg.
Cyhoeddir y Rhestr Fer o 3 cyfrol Gymraeg a 3 cyfrol Saesneg yng Ng?yl y Gelli ar 28 Mai. Gwobrwyir £10,000 yr un i’r ddau enillydd, yn ogystal â £1,000 yr un i’r pedwar arall a ddaeth yn agos at y brig, mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd ar 9 Gorffennaf 2007.
Gweinyddir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan Academi, gyda nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cefnogir digwyddiadau Diwrnod y Llyfr gan Gyngor Llyfrau Cymru.




Awduron yn gwrthdystio. Ydych chi’n cytuno y dylid talu awduron am ddefnyddio eu deunydd ym mhrosiect digideiddio Cylchgronau Cymru?