Archif Newyddion
Llwyd a Lloyd

Nos Lun 9 Gorffennaf 2007 yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd cyflwynodd Cadeirydd yr Academi, Harri Pritchard Jones siec o £10,000 i’r awdur Llwyd Owen am ei nofel Ffydd Gobaith Cariad (Y Lolfa) a wobrwywyd yn Llyfr y Flwyddyn 2007.
Ffydd Gobaith Cariad yw ail nofel Llwyd Owen, y brodor o Gaerdydd sy’n byw yn ardal Parc Buddug y ddinas â’i wraig a’i ferch fach. Mae wedi cyhoeddi barddoniaeth, ffotograffiau ac erthyglau mewn cylchgronnau amrywiol dros y blynyddoedd diwethaf. Fel ei nofel gyntaf, y mae’r nofel rymus, ddirfawr hon hefyd wedi’i gosod yn y brifddinas ac yn llawn datblygiadau annisgwyl ac anghygoel.
Y ddwy gyfrol arall ar y Rhestr Fer oedd Dygwyl Eneidiau gan Gwen Pritchard Jones (Gwasg Gwynedd) ac Un Bywyd o Blith Nifer gan T. Robin Chapman (Gwasg Gomer).
Yr enillydd yn Saesneg yw Lloyd Jones am ei lyfr Mr Cassini (Seren).
Trefnir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan Academi ac fe’i chefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cefnogwyd y Seremoni gan BBC Cymru Wales.
Nid dyna oedd ei diwedd hi ar gyfer yr awduron hynny a gyrhaeddodd Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2007 ’chwaith. Eleni eto fe rhoddwyd cyfle i wrandawyr BBC Radio Cymru eu hunain fod yn feirniaid, gan fwrw’u pleidlais ar gyfer dewis enillydd i Wobr y Darllenwyr. Dros yr wythnosau diwethaf bu gwrandawyr Radio Cymru yn pleidleisio dros y ffôn ac ar wefan BBC Cymru’r gan ddewis o blith y deg llyfr a gyrhaeddodd y Rhestr Hir. Felly, wedi gwobrwyo Llwyd Owen, cyflwynwyd Gwobr Darllenwyr BBC Radio Cymru i T. Robin Chapman am ei gyfrol, Un Bywyd o Blith Nifer, sef astudiaeth gynhwysfawr a dadlennol o’r cymeriad enigmatig, Saunders Lewis. Dyma brofi felly bod y diddordeb yn un o ffigyrau mwyaf dadleuol Cymru’r ugeinfed ganrif yn parhau ymhlith ein darllenwyr.
Ffydd Gobaith Cariad gan Llwyd Owen
(Y Lolfa, 2006)
£7.95 [ISBN: 0862439396]
PRYNWCH GOPI (drwy wefan Gwales)




Cerdd er cof am Wil Sam gan y Bardd Cenedlaethol, Gwyn Thomas.
Awduron yn gwrthdystio. Ydych chi’n cytuno y dylid talu awduron am ddefnyddio eu deunydd ym mhrosiect digideiddio Cylchgronau Cymru?