Archif Newyddion
Stomp y Steddfod
|
|
Stomp [bôn y f. stompiaf: ystompiaf: (y)stompio, stomp(i)an] eb.g. Stwmp, stwnsh, slwtsh; llanastr, anrhefn, hefyd yn ffig. am berson:. mash, mashed vegetable(s), soft pulpy mass; mess, disorder, also fig. of person.
A fydd llanast? A fydd anrhefn? Neu a fydd y Stompfeistr, Ifor ap Glyn, yn llwyddo i gadw trefn ar yr un bardd ar bymtheg a fydd am eu gorau yn cystadlu am y Stôl fach bren eleni?
Ymhlith y Stompwyr eleni mae’r cyn-enillydd Arwel "Pod" Roberts - ai ef fydd yn mynd â hi eto eleni neu tybed a fedr un o’r canlynol ei herio - Karen Owen, Arwyn Groe Davies, Eurig Salisbury, Gwenallt Llwyd Ifan, Catrin Dafydd, Iwan Llwyd, Hywel Griffiths, Geraint Lovgreen, Emlyn Gomer, Alwyn Ifans neu rywun arall…
Cynhelir y Stomp am 8.30 pm nos Wener 10 Awst, fel rhan o ddigwyddiadau MaesC ar faes carafanau’r Eisteddfod. Tocynnau: £7 (£6 gost.) ar gael gan Academi: 029 2047 2266 / llinell docynnau’r Eisteddfod: 0845 122 1176
Dyma un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod felly sicrhewch eich tocynnau ar unwaith.





Cerdd er cof am Wil Sam gan y Bardd Cenedlaethol, Gwyn Thomas.
Awduron yn gwrthdystio. Ydych chi’n cytuno y dylid talu awduron am ddefnyddio eu deunydd ym mhrosiect digideiddio Cylchgronau Cymru?