Archif Newyddion
Academi ar Faes yr Eisteddfod
|
|
Mae’r Academi wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau ar Faes y Brifwyl eleni. Byddwn yn rhannu stondin gyda Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, felly galwch draw am baned a sgwrs, ac i ymuno yn hwyl yr wyl.
Dydd Llun 6 Awst
2.30 pm, Y Lle Celf: Lansio Taliesin 131: Rhifyn yr Haf. Digwyddiad yng nghwmni’r golygyddion Manon Rhys a Christine James a nifer o gyfranwyr y rhifyn hwn, gan gynnwys T James Jones, Gwyn Thomas, Jason Walford Davies a Ned Thomas.
Dydd Mawrth 7 Awst
11.00 - 12.00 am, Llwyfan Tesco: Brwydr Brains - talwrn anffurfiol dan arweiniad y Meuryn, Arwyn Groe Davies.
Dydd Mercher 8 Awst
11.00 am, Y Lle Celf: Diwrnod o weithgareddau ar gyfer aelodau Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc dan arweiniad Aled Lewis Evans.
Dydd Iau 9 Awst
4.00pm, y Babell Lên: Sesiwn Llyfr y Flwyddyn gyda’r enillydd eleni, Llwyd Owen ac eraill mewn trafodaeth â’r awdur a’r bardd, Rocet Arwel Jones.
Dydd Sadwrn 11 Awst
2.00pm, Stondin Academi: Cylch Trafod y Cyfansoddiadau dan arweiniad Rocet Arwel Jones. Byddwch y cyntaf i ddweud eich dweud am weithiau llenyddol buddugol Eisteddfod 2007.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 / post@academi.org





Cerdd er cof am Wil Sam gan y Bardd Cenedlaethol, Gwyn Thomas.
Awduron yn gwrthdystio. Ydych chi’n cytuno y dylid talu awduron am ddefnyddio eu deunydd ym mhrosiect digideiddio Cylchgronau Cymru?