Archif Newyddion

Cinio Llenyddol yr Academi

Gwesty Portmeirion

Cynhelir Cinio Llenyddol blynyddol yr Academi yng Ngwesty Portmeirion ddydd Sul 30 Medi 2007 o 12:30pm ymlaen.  Y siaradwyr gwadd eleni fydd yr actor Richard Elfyn ar ran Ian Rowlands ac Ed Thomas, y ddau’n adnabyddus ym myd y ddrama a theatr yng Nghymru. 

Wedi dechrau ei yrfa fel actor, mae Ian Rowlands bellach yn awdur ac yn gyfarwyddwr artistig.  Mae ei waith fel awdur ar gyfer y theatr yn cynnwys The Sin-Eater, Solomon’s GloryA Marriage of Convenience, a’i waith fel cyfarwyddwr artistig, gyda Llwyfan Gogledd Cymru yn fwyaf diweddar, yn cynnwys cynyrchiadau megis Deinameit, Caerdroia, Frongoch, DW2416, a Branwen.  Y mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar gyfer radio a theledu, yn cynnwys A Light in the Valley.  Mae nifer o’i ddramâu wedi’u cyhoeddi gan Parthian, yn eu plith, A Trilogy of Appropriation.  Bydd ei araith yn cael ei darllen gan Richard Elfyn, un o actorion mwyaf adnabyddys Cymru.

Ers sefydlu’r cwmni cynhyrchu Fiction Factory yn 1988, mae Ed Thomas wedi gweithio fel awdur cyfarwyddwr a chynhyrchydd ar gyfer theatr, ffilm, drama a rhaglenni ffeithiol.  Mae ei ddramâu yn cynnwys Song from a Forgotten City, Gas Station Angel a Stone City Blue.  Y mae wedi ennill nifer o wobrau’n cynnwys BAFTA Cymru am Silent Village, Fallen Sons, House of America, Satellite City, Fondue Rhyw a Dinasors, a Dal:Yma/Nawr.  Yn ddiweddar mae wedi bod yn gweithio ar China, Y Pris a’r drydedd gyfres o Caerdydd.


Tocynnau: £23.50 y pen (£21.50 i aelodau a chefnogwyr Academi).
Am ragor o fanylion, ac i archebu eich tocynnau, cysylltwch a’r Academi:
029 2047 2266 / 01766 522817 / post@academi.org.