Archif Newyddion

Academi a Threnau Arriva Cymru

Golygfa

Mae’r Academi a Threnau Arriva Cymru yn cydweithio ar gynllun i feithrin ysgrifennu am deithio ymysg rhai o ysgrifennwyr ifanc mwyaf dawnus Cymru.

Mae aelodau y Sgwadiau ‘Sgwennu wedi derbyn tocynnau i deithio am ddim gan Trenau Arriva Cymru, ac fe fydd llenorion blaenllaw yn ymuno â nhw ar y trenau i gynnal sesiynnau ysgrifennu creadigol. Mae Trenau Arriva yn gobeithio defnyddio cynnyrch y sesiynnau yn eu gwaith cyhoeddusrwydd ac fe fydd aelodau’r Sgwad yn cael y cyfle i gael persbectif newydd ar Gymru.

Teithiau golygfaol Trenau Arriva Cymru yw:
- Rheilffordd Calon Cymru (Abertawe i’r Amwythig)
- Rheilffordd y Cambrian (Machynlleth i Bwllheli)
- Rheilffordd Arfordir Sir Benfro (Hen Dŷ Gwyn ar Daf i Ddoc Penfro)
- Rheilffordd y Gororau (Wrecsam i Bidston)

Mae gwybodaeth ar holl deithiau golygfaol Trenau Arriva Cymru ar gael ar eu gwefan:
http://www.arrivatrainswales.co.uk

Mae ambell gerdd wedi ymddangos yn barod. Aeth aelodau Sgwad Sgwennu Saesneg Gwynedd ar daith o Bwllheli i Abermaw gyda Francesca Kay, a threfnydd Sgwad Gwynedd, Gwen Lasarus James. Mae’r cerddi hyn i’w gweld ar ochr Saesneg ein gwefan. Maes o law bydd cynnyrch pob Sgwad Sgwennu i’w gweld ar y wefan hon.

alt