Archif Newyddion
Cyfres Sgyrsiau Oriel 1 yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan
|
| |
Dic Jones a Gillian Clarke
Dydd Iau Rhagfyr 13 2007 3.00pm.
Mynediad am ddim
Bydd Dic a Gillian yn darllen a thrafod eu gwaith yn oriel newydd Sain Ffagan, Oriel 1. Mae gwahanol haenau o ddehongli’r Oriel. Un o’r haenau hyn yw barddoniaeth. Gyda help yr Academi, comisiynwyd y darpar-Archdderwydd, y Prifardd Dic Jones, a Gillian Clarke, i ysgrifennu cerddi ar y thema ‘Credoau’, a gellir gweld y cynnyrch terfynol ar waliau’r Oriel, nid fel rhywbeth aesthetig yn unig, ond fel rhywbeth creiddiol i ddehongliad yr adran arbennig honno.
Cred
Pan gododd haul ar fore bach y byd,
Cyn geni sant na phroffwyd, pwy a ddwêd
Gan bwy, ac i ba ddiben, a pha bryd
Y dodwyd yn ein henaid hedyn Cred?
Y grym anorthrech a roes faen ar faen
Mewn pyramid, pagoda, llan a mosg,
A thaenu chwedl a chân a chelf ar daen
I dorri rhywfaint ar ein syched llosg.
O ble y daeth ellyllon yr Un Drwg
Ac ofergoelion pitw ofnau’r cnawd
I gynnig ein hymwared rhag eu gwg
Neu geisio prynu, weithiau, wenau ffawd
A’n rhoi’n y dafol rhwng y Nef â’r Fall
I ryw bendilio rhwng y nail a’r llall?
Dic Jones
Revival
‘The next revival will be a singing revival.’ Joseph Parry
It was boots and hallelujahs on the roads that day.
By dawn the place was full and still they came
Under autumn skies, down steep and stony ways.
To hear a young man speak. In each a flame
Flickered in the reliquary of the heart,
Somewhere between faithlessness and hope.
We see them, stilled by the camera’s art,
A multitude frozen on a mountain slope,
The collier from the south driven by desire
To preach. In our dangerous century
Words can set a hungry crowd on fire,
Fists raised against the hurts of history.
What grace then, on the hill, touched those listening
And set a thousand voices singing?
Gillian Clarke





Wythnos rhoi llyfr yn anrheg - mae’r dathlu wedi dechrau.
Cyhoeddi Llysgennad Llenyddiaeth Cymru Dramor 2008
Gwerthu Taliesin - cyfle i weithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Llên Gwerin Ardal y Chwareli - cynhadledd yn yr Amgueddfa Lechi, Llanberis
Rhyw a chrefydd, pryfed a phryfetach a bardd y cannoedd lliwiau llwyd. Pwy yw’r tri ar y brig?