Archif Newyddion
O Fôn i Felffast
Cynnig Cyntaf i’r Felin
Neilltuwch eich lle cyn ddydd Mercher 2 Ionawr 2008

Am yr un pris ar gyfer y gynhadledd, gallwn drefnu bod potel o win (gwyn neu goch - eich dewis chi) yn anadlu’n gynnes neu’n oeri’n fodlon yn eich ystafell pan gyrhaeddwch y gwesty. Yn ogystal, yn aros amdanoch ac yn swatio’n glyd mewn bocs bach fydd siocledi blasus wedi’u dethol o siop leol. Dewisiwch chi p’run ai ydych am eu rhannu ai peidio?
Pecyn y Gynhadledd
£210 / £190 (i aelodau’r Academi)
Mae’r pris hwn yn cynnwys llety am ddwy noson yng Ngwesty’r Wellington Park, yr holl ddarlithoedd a gweithdai, yn ogystal â phrydau bwyd. Mae’r pris wedi’i seilio ar ddwy / ddau yn rhannu ystafell.
Mae’r cynadleddwyr yn gyfrifol am wneud eu trefniadau teithio’u hunain i’r gynhadledd.
Lleolir Gwesty’r Wellington Park yng nghraidd ardal y Brifysgol yng nghanol y ddinas, munudau yn unig o’r Waterfront Hall, yr Odyssey, y Kings’ Hall a’r holl feysydd awyr a’r gorsafoedd tren. Adwaenir y gwesty pedair seren hwn am ei gyfleusterau cynadledda, yn ogystal â’i lolfa Arts Cafe cyfoes, ei fwyty cywrain a’i ystafelloedd eang. Mae maes parcio wedi’i ddiogelu ar gael ar y safle.
Bydd tocynnau dyddiol ar gael yn ogystal.
Cysylltwch â’r Academi am fwy o wybodaeth:
Ffôn: 029 2047 2266 / ebost: post@academi.org



Gwerthu Taliesin - cyfle i weithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Llên Gwerin Ardal y Chwareli - cynhadledd yn yr Amgueddfa Lechi, Llanberis
Deg awdur, deng mil o bunnoedd. Mae’r frwydr ar ddechrau. Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008
Llyfr y Flwyddyn 08 Mae’r darllen ar ben, a’r beirniaid nawr yn crafu pen…