Archif Newyddion

Ble Mae Pen Draw’r Byd?

11 Ionawr 2008, 7.30 pm
Clwb Hwylio Aberdaron
Tocynnau: £3 a gwydraid o win am ddim

Bydd Wendy Lloyd Jones yn holi’r bardd Christine Evans a Gwen Pritchard Jones, awdur Dygwyl Eneidiau.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwen Lasarus:
01286 679465 neu
gwenlasarus@gwynedd.gov.uk

Gwen Pritchard JonesMae Gwen Pritchard Jones yn enedigol o Dal-y-sarn yn Nyffryn Nantlle. Bu hi’n athrawes gynradd yng Ngwynedd, yn cadw stondin mewn marchnad, yn rhedeg cwmni arlwyo ac yn gweithio yn y BBC. Mae hi nawr yn byw ym Mhant-glas.


Dygwyl EneidiauMae ei nofel yn adrodd hanes llofruddiaeth erchyll y ficer ar noson Dygwyl Eneidiau - dyna oedd dechreuad gyrfa Siôn Rhisiart fel milwr ar feysydd rhyfel Ewrop - ond pam?  A phwy oedd y llofrudd? Mewn ymgais i ateb y cwestiynau hyn, dychwela Siôn i Aberdaron. Dyma stori llawn cyffro, dirgelwch a rhamant sydd wedi’i gwau o gwmpas digwyddiadau cythryblus y misoedd hynny oedd yn arwain at ddechrau’r Rhyfel Cartref yn Awst 1642.