Archif Newyddion

Beirdd v Rapwyr

7 Chwefror 2008
Bar One, Canolfan Mileniwm Cymru
7.30 pm

Ymunwch â ni ar gyfer yr ornest digyfaddawd yma rhwng rhai o feirdd a rapwyr Cymru. Yn cynrychioli ar ran y rapwyr fydd Ed Holden o’r Diwygiad a Genod Droog, Dybl-L a Rufus Mufasa. Rhai a fydd yn brwydro dros fri y beirdd fydd Owain Rhys, Catrin Dafydd, Rhys Iorwerth ac Osian Rhys Jones.

Yn cadw llygad dros y gweithgarwch ac yn cadw trefn ar y timau fydd yr awdur, limrigwr, cerddor a Godrapiwr am noson, Dewi Prysor, a bydd DJ’s Llwybr Llaethog yno i gadw’r bît.

Mynediad am ddim.
Cysylltwch â’r Academi i neilltuo’ch lle.

Trefnir ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae’r digwyddiad yma’n rhan o weithgareddau Berw’r Bae sy’n digwydd rhwng 14 -16 Mawrth 2008.

Canolfan Mileniwm Cymru   Berw’r Bae   Cefnogwyd gan Legal & General