Archif Newyddion

Noson o Farddoniaeth Urdu a Chymraeg

Grahame Davies  Mian Majid

25 Ionawr 2008, 8.00pm
Canolfan Unity, 50-52 Sgwâr Loudoun, Caerdydd

Noson ddifyr ddwyieithog gyda darlleniadau gan y bardd gwadd Grahame Davies ynghyd ag aelodau cylch llenyddol Urdu Bazm-e-Adab. Dyma’r bumed yn y gyfres lwyddiannus o nosweithiau barddol Urdu a Chymraeg yn y Brifddinas.

Darperir lluniaeth ysgafn.  Croeso i bawb - mynediad am ddim .  Cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 neu post@academi.org i sicrhau’ch lle.