Archif Newyddion

Llatai serch i gariadon Gwynedd

Cariad  Cariad  Cariad 

Dydd G?yl Santes Dwynwen 25 Ionawr 2008

Eleni eto, mae Cynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd wedi comisiynu e-garden Santes Dwynwen arbennig wedi’i gynllunio gan yr artist Catrin Meirion gyda cherdd newydd gan y Bardd Cenedlaethol Gwyn Thomas.

Os hoffech anfon yr e-garden at eich cariad/ ddarpar gariad, cysylltwch â Gwen Lasarus, Hyrwyddwraig Llenyddiaeth Gwynedd, ar gwenlasarus@gwynedd.gov.uk gan roi’r manylion yn llawn.

Cynllun ar y cyd rhwng yr Academi a Chyngor Gwynedd yw Cynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd.