Archif Newyddion

Llyfr y Flwyddyn 2008

Y mae’r cynnwrf ar fin dechrau unwaith eto…

Llyfr y Flwyddyn

Bydd awduron a chyhoeddwyr Cymru yn hogi’u harfau wrth i’r byd llenyddol baratoi ar gyfer lansio Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008 y Gwanwyn hwn.

Ond pwy yw’r beirniaid sydd wedi treulio blwyddyn yn pori drwy’r pentwr o gyfrolau cymwys? Pwy fydd yn wynebu’r dasg o benderfynu ar y goreuon eleni?

Y beirniaid ar banel y llyfrau Cymraeg eu hiaith yw Siân Thomas, Huw Meirion Edwards ac Aled Islwyn gyda Mavis Nicholson, Damian Walford Davies a Trevor Fishlock yn ffurfio panel y llyfrau Saesneg eu hiaith. Darllenwch am y beirniaid yma.

Tybed pa awduron fydd yn cyrraedd y Rhestr Hir eleni felly?  A fydd y cyn-enillydd, Llwyd Owen yn medru rhoi ergyd arall arni ynteu ai blwyddyn y beirdd fydd hi eleni gyda chyfrolau gan Ceri Wyn Jones a Llion Jones ymhlith y llyfrau cymwys?  Tybed a fydd cyfrolau buddugol yr Eisteddfod gan Tony Bianchi a Mary Annes Payne yn llwyddiannus unwaith eto?  Y mae’r penderfyniad yn nwylo’r beirniaid…

Os am gael cip ar y cyfrolau cymwys hynny sy’n gymwys ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2008 cliciwch yma.

Bydd manylion pellach ynglŷn â lansiad y Rhestr Hir yn ymddangos ar ein gwefan yn fuan.

Felly, tra mae beirniaid gwobr 2008 yn pendroni pa ddeg cyfrol sydd wedi serennu , mae’r holl broses ar fin dechrau ar gyfer beirniaid gwobr Llyfr y Flwyddyn 2009.  Dyma’r beirniaid a fydd yn boddi dan lyfrau am y flwyddyn nesaf:

Panel Cymraeg: Luned Emyr, Derec Llwyd Morgan a Gwyn Thomas.

Panel Saesneg: Mike Parker, John Barnie a Tiffany Atkinson.

Bydd rhestr o’r llyfrau cymwys ar gyfer gwobr 2009 yn ymddangos ar ein gwefan yn fuan.